

Mae Merfyn Jones, sy'n fwy adnabyddus fel 'Smyrff,' yn Arweinydd Mynydd Haf a Gaeaf profiadol ac mae'n angerddol am rannu profiadau awyr agored yn Eryri a thu hwnt, boed hynny ar droed neu ar feic mynydd. Mae ganddo wybodaeth wych o'r awyr agored ac mae'n frwdfrydig am hanes lleol, natur a daeareg a gall gynnig gwasanaeth dwyieithog. Oedd Merfyn yn aelod hirdymor o Dîm Achub Mynydd De Eryri.
Cymrwch olwg ar ein holl deithiau tywys o amgylch Eryri. Gallwn gynnig teithiau i fyny’r Wyddfa, Crib Goch, Tryfan, Y Glyderau, Y Carneddau, Y Moelwynion, Y Rhinogydd, Cadair Idris, Yr Arenig a Nantlle!
Rydym yn cynnig dyddiau beicio mynydd gwych o amgylch rhai o deithiau gorau Eryri. Gallwn ddarparu ar gyfer lefelau gwahanol o allu; unigolion, grwpiau neu deuluoedd. Gofynnwch am logi beiciau ac e-feiciau hefyd!
A ydych chi’n ystyried cynnal her cerdded ar gyfer eich elusen neu weithlu fel digwyddiad adeiladu tîm? Rydym yma i’ch helpu.
Gweler ein tudalennau ar gyfer gwneud taliadau ar-lein, polisïau preifatrwydd, rhestrau offer, adolygiadau a thelerau ac amodau.