Tri Copa Cymru

Cwblhawyd yr her 3 Copa Cymru gan grŵp o ffrindiau o ardal Caerdydd. Oedd nhw yn casglu arian i wahanol elusennau yn cynwys yr Eisteddfod.


Gweithdrefn Archebu

  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau archebu.
  • Cysylltwch â ni am ddyddiadau ac argaeledd.
  • Bydd Smyrff o Heicio a Beicio Eryri yn cysylltu â chi mewn 1 - 2 ddiwrnod.

Telerau ac Amodau Archebu

Darllenwch ein Telerau ac Amodau Archebu


Pris

£ cysylltwch â ni


Tri Copa Cymru Recent Reviews

Diwrnod byth gofiadwy. Diolch enfawr am sicrhau fod pawb yn cwblhau'r her, o dan amodau anodd iawn ar adegau. Arweiniad a chefnogaeth proffesiynol o'r dechrau i'r diwedd. Diolch o galon.

BH (Sir Fynwy) - Sep 2024

Diwrnod gwbl wych a’r cyfan wedi’i drefnu mor ofalus o drylwyr. Roedd gan yr hyfforddwyr wybodaeth anhygoel am y llwybrau a’r ardal ac roedd eu gofal amdanom fel grwp ac unigolion yn glodwiw. Pobl gwbl hyfryd ac mor brofiadol a hynny’n golygu ein bod yn teimlo’n gwbl ddiogel yn eu gofal. Diolchgar iawn i Smyrff ac i bob aelod o’r tîm am eu harweiniad a’u gofal ac am wneud y profiad yn un mor arbennig.

Helen Sharkey (Caerdydd) - Aug 2024

Diolch anferth i Smyrff a’i griw i helpu criw o fenwod (20 ohonom) i ddringo Tri Chopa Cymru mewn diwrnod. Yr oedd Smyrff yn arbennig yn cyfathrebu drwy Whatsapp ac ebost, ac yn ateb bob cwestiwn oedd gennym. Rhoddodd rhestr cit i ni a chyngor gyda bwyd ac ati. Yr oedd ei wybodaeth am y mynyddoedd yn wych a rhoddodd diogelwch pawb yn gyntaf. Llwyddodd pob un ohonom yn y grwp i gerdded y tri copa, gyda chefnogaeth Smyrff a’i griw. Diwrnod bythgofiadwy! Diolch am bob peth Smyrff. Peidiwch ag oedi bwcio Heicio a Beicio Eryri. Gwych!

Elen Derrick (Caerdydd) - Aug 2024


Oriel