

Heicio a Beicio Eryri yw enw masnachu’r wefan hon sy’n berchen i Merfyn Jones (sy’n cael ei adnabod yn well fel ‘Smyrff’).
Yn y polisi hwn, mae Heicio a Beicio Eryri wedi darparu gwybodaeth ar ba wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu, pryd a pham ein bod yn casglu eich gwybodaeth bersonol, sut mae’n cael ei defnyddio, yr amodau cyfyngedig y gall arwain atom yn datgelu eich gwybodaeth i eraill a sut caiff y wybodaeth ei gadw’n ddiogel.
Mae Heicio a Beicio Eryri wedi ymrwymo i gynnal ymddiriedaeth a hyder ymwelwyr i’r wefan. Yn benodol, nodwch nad yw Heicio a Beicio Eryri yn gwerthu, rhentu na fasnachu eich manylion cyswllt gyda chwmnïau a busnesau eraill at ddibenion marchnata neu fudd ariannol.
Mae Heicio a Beicio Eryri yn casglu eich data personol pan fyddwch yn:
Mae angen eich data personol sylfaenol arnom: e.e. enw, rhif ffôn cyswllt a’ch cyfeiriad e-bost. Rydym yn casglu’r wybodaeth yma er mwyn eich darparu gyda’n nwyddau a’n gwasanaethau, ac i amlinellu ein hawl i gael ein talu am ein gwasanaethau.
Nid ydym yn casglu unrhyw ddata personol gennych nad oes eu hangen arnom i ddarparu nwyddau neu wasanaethau.
Os nad ydych yn darparu’r wybodaeth bersonol sylfaenol hon, byddwn methu â darparu’r nwyddau neu wasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt.
Nid yw Heicio a Beicio Eryri yn gwerthu, rhentu na fasnachu eich manylion personol neu gyfeiriad e-bost gyda chwmnïau a busnesau eraill at ddibenion marchnata neu fudd ariannol.
Nid yw Heicio a Beicio Eryri yn casglu eich cyfeiriad IP.
Ffeil fach yw cwci a roddwyd gan ein gwefan yng ngyriant caled eich cyfrifiadur. Mae’r ffeil yn cynnwys gwybodaeth sy’n ein helpu i ddadansoddi traffig gwe neu sy’n eich hysbysu pan yr ydych yn ymweld â gwefan benodol. Mae cwcis yn galluogi cymwysiadau’r we i ymateb i chi fel unigolyn. Gall gymwysiadau’r we deilwra ei weithrediadau i’ch anghenion, a’ch hoff a chas bethau drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau. Ar y cyfan, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu’r wefan orau i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau yr ydych yn teimlo sy’n ddefnyddiol neu beidio. Nid yw cwcis mewn unrhyw ffordd yn rhoi mynediad i ni i’ch cyfrifiadur neu unrhyw wybodaeth amdanoch, oni bai am y data yr ydych wedi’i ddewis i’w rhannu gyda ni.
Mae’r cwcis hyn yn weithredol a does dim posib eu diffodd.
Mae’r cwcis hyn yn rhoi gwybodaeth am y ffordd y mae ein gwefan yn gweithredu, sut mae pob tudalen yn llwytho, a rhoi gwybodaeth i weithredwr y wefan pan fo materion technegol yn codi ar y wefan. Mae hyn yn ein galluogi i ddadansoddi data am draffig tudalen gwe, i ddarganfod gwybodaeth megis y nifer o ymwelwyr i rannau amrywiol o’r wefan a gwella ein gwefan i’w deilwra i anghenion cwsmeriaid.
Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu mewn ffordd sydd ddim yn cydnabod unrhyw berson. Nid ydym yn ceisio, nac yn galluogi i Google geisio ymdrechu i ddarganfod hunaniaeth y rheini sy’n defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion dadansoddi ystadegol yn unig, ac yna caiff y data ei dynnu oddi ar y system.
Mae’r rhan fwyaf o wefannau yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond gallwch addasu eich gosodiadau porwr gwe i wrthod cwcis os yw’n well gennych.
Rydym yn ymwybodol o ba mor bwysig yw diogelu data i’n holl gwsmeriaid. Gyda hyn mewn golwg, byddwn yn trin eich data gyda’r gofal gorau ac yn cymryd pob cam priodol i ddiogelu’r data. Rydym yn diogelu mynediad at holl adrannau trafodaethol ein gwefan drwy ddefnyddio technoleg ‘https’ (SSL).
Rydym yn monitro ein system yn gyson am wendidau ac ymosodiadau posib ac rydym yn cynnal profion diogelwch o’n gwefan a’n rhwydweithiau i adnabod ffyrdd o gryfhau diogelwch ymhellach.
Pan rydym yn casglu neu brosesu eich data personol, byddwn yn ei gadw gyhyd ag y bo angen ar gyfer y dibenion y casglwyd y data.
Ar ddiwedd y cyfnod cadw hwnnw, bydd eich data naill ai’n cael ei ddileu yn gyfan gwbl neu ei wneud yn ddienw, er enghraifft drwy gyfuno data arall fel y gellir ei ddefnyddio mewn modd dienw ar gyfer dadansoddi ystadegol a chynllunio busnes.
Efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich data personol i’r heddlu neu orfodaeth arall, neu gorff rheoliadol neu Lywodraethol, yn eich gwlad wreiddiol neu rywle arall, ar gais dilys i wneud hynny. Caiff y ceisiadau hyn eu hasesu fesul achos ac maent yn ystyried preifatrwydd ein cwsmeriaid.
Mynediad at eich gwybodaeth bersonol
Dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) Ewropeaidd newydd, mae hawl gennych i gael mynediad at eich data personol am ddim, a hawl i’w addasu neu ddileu.
Cysylltwch â Merfyn Jones yn Heicio a Beicio Eryri ar (+44) (0) 7795 298 055 neu anfonwch e-bost gyda’ch cais.
Os ydych yn teimlo nad yw eich data wedi cael ei drin mewn modd cywir, neu os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb i unrhyw geisiadau ynglŷn â’ch data personol, mae hawl gennych i roi cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gallwch gysylltu â nhw dros y ffôn ar 0303 123 1113. Neu ar-lein drwy: www.ico.org.uk/concerns
Cafodd y polisi hwn ei greu ar 17/07/2023 a chaiff ei adolygu’n gyson. Gwiriwch y dudalen hon am y wybodaeth ddiweddaraf.