Telerau ac Amodau

AMODAU GWASANAETH

Caiff pob cwrs Heicio a Beicio Eryri eu cynnal gan staff profiadol gyda chymwysterau addas.

Er y gwneir pob ymdrech resymol i gyflwyno cyrsiau, mae hawl gan Heicio a Beicio Eryri i ganslo neu addasu cyrsiau yn dibynnu ar y tywydd, ystyriaethau diogelwch a/neu ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth.

ATEBOLRWYDD AC YSWIRIANT

Mae cerdded bryniau, dringo / mynydda a beicio mynydd yn weithgareddau a all fod yn beryglus. Mae’n rhaid i bob cyfranogwr fod yn ymwybodol o hyn a derbyn y risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithgareddau hyn.

Er bod Heicio a Beicio Eryri yn cymryd cyfrifoldebau diogelwch o ddifrif, gall gyfrifoldeb am anaf neu salwch sy’n deillio o gerdded bryniau, dringo / mynydda neu feicio mynydd gael eu derbyn os achoswyd esgeulustod ar ran Heicio a Beicio Eryri, ei weithwyr neu asiantau yn unig.

Nid yw Heicio a Beicio Eryri dan unrhyw fath o atebolrwydd mewn perthynas â cholled neu ddifrod i eiddo yn ystod cwrs neu weithgaredd a drefnwyd gan Heicio a Beicio Eryri, waeth beth yw’r achos.

Caiff cyfranogwyr eu cynghori’n gryf i drefnu eu hyswiriant eu hunain. Ni all Heicio a Beicio Eryri gynnig unrhyw fath o yswiriant (oni bai am addasrwydd cyhoeddus).

YSTYRIAETHAU IECHYD A DIOGELWCH

Oherwydd natur egnïol ein cyrsiau a digwyddiadau, mae angen i bob cyfranogwr fod yn rhesymol ffit yn gorfforol. Mae angen i unrhyw un sydd gyda chyflwr meddygol geisio am gyngor meddygol cyn ystyried cymryd rhan. Dylent hefyd sicrhau bod Heicio a Beicio Eryri yn ymwybodol o hyn cyn dyddiad y cwrs.

Bydd angen llenwi ffurflenni caniatâd cyn i unrhyw berson gychwyn unrhyw gwrs neu weithgaredd gyda Heicio a Beicio Eryri.

Er ein bod yn hoff o anifeiliaid ac yn eu hannog nhw yn yr awyr agored, rydym hefyd yn deall nad yw pawb yn teimlo’r un fath. Mae rhai pobl wirioneddol yn nerfus yng nghwmni cŵn neu anifeiliaid eraill a gall rhai fod ag alergedd tuag atynt. Rydym hefyd yn cael mynediad at dir fferm ac mae gennym berthynas dda iawn gyda ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n mynnu bob amser i gadw anifeiliaid ar dennyn tra ar eu tir. Felly, mae’n well gennym os nad ydynt yn rhan o’n gweithgareddau i sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn y gweithgaredd yn cael y profiad gorau. Cysylltwch â ni i drafod gweithgareddau sy’n cynnwys anifeiliaid / anifeiliaid anwes.

Mae’n rhaid i bob cyfranogwr fod dros 18 oed neu dros 14 oed gydag oedolyn â chyfrifoldeb rhiant. Gall oedrannau iau gymryd rhan gyda chaniatâd ymlaen llaw.

Gadewch i ni wybod os oes unrhyw un dan 18 oed eisiau cymryd rhan.

Mae gan Heicio a Beicio Eryri’r hawl i wrthod cyfranogiad i unrhyw un a ystyrir dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Gall aelod o staff Heicio a Beicio Eryri benderfynu bod angen i gyfranogwr adael y cwrs os yw’r person hwnnw yn ymddwyn mewn modd i beryglu ei hun neu berson arall.

Rydym yn annog ein cleientiaid i gymryd lluniau a fideos o’u gweithgareddau a phrofiadau gyda ni, yn ogystal â rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, ni ddylai cleientiaid ddefnyddio dyfeisiau Go Pro, dronau neu ddyfeisiau tebyg ar ein cyrsiau heb ganiatâd ysgrifenedig, gan eu bod yn medru tynnu sylw’r defnyddiwr ac eraill. Gallent hefyd effeithio ar ddiogelwch y defnyddiwr ac eraill, yn ogystal â’u preifatrwydd. Mae arweiniad addas mewn lle ar gyfer yr arfer gorau wrth ddefnyddio dronau. Cysylltwch â ni os hoffech ddefnyddio’r dyfeisiau hyn ar unrhyw un o’n gweithgareddau neu gyrsiau.

ANABLEDDAU

Mae croeso i bobl anabl neu bobl llai abl i gymryd rhan ar ein cyrsiau. Anfonwch fanylion eich anghenion penodol i Heicio a Beicio Eryri wrth archebu eich lle, neu gysylltwch i drafod cyn archebu.

Mae’n rhaid hysbysu Heicio a Beicio Eryri o unrhyw gyflyrau meddygol (asthma, epilepsy, diabetes, alergeddau, anafiadau ac ati) neu unrhyw anghenion arbennig eraill o unrhyw/bob cyfranogwr cyn dyddiad unrhyw gwrs.

OFFER A DILLAD

Bydd rhestr lawn o offer a chyfarwyddiadau yn cael eu hanfon atoch unwaith yr ydych wedi cofrestru ar gwrs a bod eich archeb wedi’i gadarnhau.

Bydd cyrsiau sgiliau’r gaeaf yn cynnwys llogi offer personol megis bwyell iâ, helmed a chrampons, ond bydd angen i chi ddefnyddio eich esgidiau gaeaf eich hun gan nad yw’r rhain wedi’u cynnwys. Cysylltwch â ni am gyngor neu i drafod ymhellach.

Nid yw bwyd na llety yn cael eu cynnwys oni bai ei fod wedi’i nodi, ei drefnu’n flaenorol, ei gadarnhau a’i dalu amdano.

CYFRANOGWYR CWRS

Dyma’r lleiafswm o gyfranogwyr sydd eu hangen arnom i sicrhau bod cwrs yn cael ei gynnal:

  • Sgiliau Mynydd Eryri 5 diwrnod – 2 person
  • Llywio 1 diwrnod – 2 person
  • Sgiliau Mynydd a Bryniau 2 ddiwrnod – 2 person
  • Teithiau tywys – 1 person
  • Beicio Mynydd – 1 person

ARCHEBION A THALIADAU

Gallwn ond derbyn archeb ar ôl derbyn y taliad priodol. Bydd unrhyw gwrs sy’n costio llai na £500 angen ei dalu’n llawn wrth wneud archeb. Bydd unrhyw gwrs a archebwyd o fewn pythefnos o ddyddiad y cwrs angen ei dalu’n llawn wrth wneud archeb. Bydd unrhyw gwrs sy’n costio dros £500 angen blaendal o 50% wrth wneud yr archeb a’r 50% sy’n weddill dim hwyrach na phythefnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs, oni bai fod y ffi yn rhan o weithgaredd pwrpasol y cytunwyd arno sydd werth mwy na £1000.00 sydd angen ei dalu’n llawn cyn y gweithgaredd/cwrs/digwyddiad neu fod y termau gwahanol wedi’u cytuno a’u derbyn yn ysgrifenedig ymlaen llaw.

Efallai y byddwn yn gofyn am flaendal bach na ellir ei ad-dalu ar gyfer cyrsiau, archebion neu weithgareddau gyda’r balans sy’n weddill angen ei dalu dim llai na phythefnos cyn dyddiad y gweithgaredd.

CANSLO, AD-DALIADAU NEU DROSGLWYDDIADAU

Rydym yn datgan yn glir ar ein gwefan y dylech ddarllen ein telerau ac amodau a’u bod ar gael i’w gweld neu lawrlwytho am ddim. Bydd DIM ad-daliad ar gael os ydych yn canslo unwaith mae archeb wedi’i wneud. Os ydych yn canslo, bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i’ch rhoi chi ar ddyddiad arall ar gyfer eich gweithgaredd dewisol neu i weithgaredd arall o’r un gwerth ariannol. Rydym yn deall bod amgylchiadau personol yn newid ac rydym bob amser yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer trefniadau a cheisiadau ein cleientiaid.

Rydym yn eich argymell i gymryd yswiriant addas i’ch diogelu chi ar gyfer eich cwrs neu weithgaredd perthnasol. Yn y digwyddiad annhebygol o Heicio a Beicio Eryri yn canslo cwrs, bydd ad-daliad llawn yn cael ei wneud gan BACS o fewn 28 diwrnod i Heicio a Beicio Eryri eich hysbysu neu gallwch drefnu dyddiad arall neu adennill pris eich cwrs ar gyfer talebau Heicio a Beicio Eryri.

CLEIENTIAID

Nid ydym yn gwahaniaethu mewn unrhyw fodd. Ein cred yw mai dim ond pobl yw pobl, ac rydym yn trin pawb gyda’r un agwedd croesawgar, cyfeillgar a phroffesiynol waeth beth fo’u lliw croen, crefydd, oed, rhywioldeb neu unrhyw beth arall. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i chi ein trin gyda’r un gwerthoedd! Mae ein holl aelodau staff yn brofiadol iawn ac mae’r cwestiynau yr ydym yn eu gofyn neu’r ffordd yr ydym yn gwneud ein swydd er mwyn rhoi’r profiad gorau a mwyaf diogel i chi.

POLISÏAU

Gweler ein polisi preifatrwydd/cwcis/GDPR ar ein gwefan yma.

CWESTIYNAU

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, peidio ag oedi i gysylltu â ni naill ai drwy’r wefan, e-bost neu dros y ffôn.