Cyrsiau

Gall ein Cyrsiau Llywio gael eu teilwra i weddu pobl ar lefel gychwynnol sydd eisiau dysgu am y pethau sylfaenol gyda chwmpawd a map, neu bobl sydd eisiau bod yn Arweinydd Mynydd neu fynychu Cwrs Gloywi Arweinydd Mynydd.

Mae’r Cwrs Sgiliau’r Gaeaf yn rhoi sgiliau ymarferol a gwybodaeth i chi, yn ogystal â’ch galluogi i gynyddu eich hyder i fynd i gerdded yn ddiogel mewn tywydd gaeafol. Mae’n gwrs awyr agored sy’n cael ei gynnal gan Arweinydd Mynydd y Gaeaf cymwysedig.