Elusen/Corfforaethol/Digwyddiadau

A ydych chi’n ystyried cynnal her cerdded ar gyfer eich elusen neu weithlu fel digwyddiad adeiladu tîm? Rydym yma i’ch helpu.

Gallwn drefnu diwrnod ar y mynydd, llwybr arfordirol, golygfaol neu iseldirol ar gyfer eich digwyddiad. Byddwn yn eich tywys a’ch cefnogi’r holl ffordd i gyrraedd y llinell derfyn.

Gallwn ddarparu ar gyfer Yr Wyddfa yn ystod y dydd neu ddringo’n y nos ar gyfer digwyddiad toriad gwawr ar fynydd uchaf Cymru.

Gallwn ddarparu Arweinwyr Mynydd profiadol, a system rheoli diogelwch sy’n cynnwys system radio ar gyfer yr arweinwyr i sicrhau y gallwch ymlacio a phrofi her ddiogel a phleserus dan arweiniad Arweinwyr Mynydd cymwysedig.

Taith ‘Gwawrio’r Wyddfa’ gan aelodau o elusen sy’n cynnig cefnogaeth pan fydd plant a phobol ifanc yn marw’n sydyn.

Cwblhawyd yr her 3 Copa Cymru gan grŵp o ffrindiau o ardal Caerdydd. Oedd nhw yn casglu arian i wahanol elusennau yn cynwys yr Eisteddfod.

Mae Evertrek yn arbenigo mewn teithiau tramor i wersyll sylfaen Everest a nifer o fynyddoedd ar draws y byd. Roedd y penwythnos hwn yn benwythnos o hyfforddiant yn y DU.

Bu i grŵp o ffrindiau gwblhau taith i gopa’r Wyddfa i weld y gwario fyny y llwybr Llanberis ag i lawr llwybr y Watkin i’r elusen MND.

Taith gerdded o Gastell i Gastell ar gyfer yr elusen Lupus. Cychwynnodd y daith gerdded elusennol hon o Harlech wrth ddringo’r ail allt fwyaf serth yn y byd i Gastell Harlech. Yn dilyn hynny, aethom ar Lwybr Arfordir Cymru a gorffen y daith 10 milltir o hyd yng Nghastell Portmeirion.

Taith gerdded Gwawrio’r Wyddfa ar gyfer Tŷ Gobaith. Cymrodd 73 person ran yn cyrraedd copa’r Wyddfa ar daith gerdded wrth i’r haul wawrio. Bu ymdrech wych gan bawb er nad oedd y tywydd ar ei orau.