

Ceir 6 tîm achub mynydd yng Ngogledd Cymru. Mae Merfyn (Smyrff) wedi bod yn aelod o Dîm Chwilio ac Achub De Eryri ers nifer o flynyddoedd. Mae pob tîm yn elusen gofrestredig sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac maent i gyd ar gael 24 awr o’r dydd, pob diwrnod o’r flwyddyn.