

Roeddem yn y Carneddau I ddarparu gwasanaeth er mwyn sicrhau diogelwch i grwpiau oedd yn gwylio casglu’r merlod mynydd gwyllt cyn y gaeaf dan arweiniad Gareth Wyn Jones a’i grŵp. Roedd Rhys Mwyn gyda ni hefyd yn trafod yr hanes a gwybodaeth archaeolegol am yr ardal.