Taith Dywys Y Glyderau

Ystyrir Cwm Idwal, sy’n rhan o’r Glyderau, fel un o'r enghreifftiau gorau o dirwedd rhewlifol ym Mhrydain. Mae’n cynnwys creigiau ansefydlog, clogwyni ysblennydd a chreigiog, rhaeadrau a llyn, gyda Chegin y Diafol yn uchafbwynt arbennig.

Mae amrywiaeth o fflora a ffawna gan gynnwys planhigion alpaidd prin yr Arctig yn gwneud dechrau'r daith hon yn brofiad gwirioneddol wych gyda golygfeydd godidog.

Mae'r Glyderau yn cynnwys 5 allan o 14 copa Cymru sydd dros 3000 troedfedd: Tryfan, Glyder Fach, Glyder Fawr, Y Garn ac Elidir Fawr.

Ystyrir Tryfan yn un o'r mynyddoedd gorau yng Nghymru sy'n gofyn am sgramblo i gyrraedd y copa. Mae copa Tryfan yn enwog am ddau fonolith carreg, yn ogystal â golygfeydd dramatig.

Glyder Fawr / Glyder Fach – Ceir golygfeydd syfrdanol sy'n cynnwys dwy nodwedd eiconig Eryri sef Y Gwyliwr (carreg Cantilever) a Chastell y Gwynt. Mae cyfleoedd gwych i dynnu lluniau yma gan fod golygfa anhygoel o’r Wyddfa yn gefndir iddynt.

Mae'r Glyderau yn cynnal llawer o gyfleoedd cerdded a sgramblo i ddechreuwyr hyd at gerddwyr profiadol. Ar adegau, gall fod yn anodd gweithio’ch ffordd o gwmpas, felly bydd defnyddio arweinydd mynydd profiadol a gwybodus yn gwneud y profiad yn un llawer mwy pleserus.

Ceir amryw o lwybrau gwahanol yn y Glyderau ar gyfer teithiau tywys. Cysylltwch â mi i drafod yr opsiynau gwahanol.


Gweithdrefn Archebu

  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau archebu.
  • Cysylltwch â ni am ddyddiadau ac argaeledd.
  • Bydd Smyrff o Heicio a Beicio Eryri yn cysylltu â chi mewn 1 - 2 ddiwrnod.

Telerau ac Amodau Archebu

Darllenwch ein Telerau ac Amodau Archebu


Pris

£ cysylltwch â ni


Hyd

  • 1 Diwrnod

Lefel Anhawster


Lefel Ffitrwydd a Argymhellir


Addasrwydd

  • Grwpiau bach
  • Unigolion

Cynnwys

  • Hyfforddwr (hyfforddwyr) cymwys, wedi’u hyswirio a phrofiadol

Rhestr Offer a Argymhellir

Offer Cyffredinol

  • Esgidiau
  • Trowsus cerdded (dim jîns neu gotwm)
  • Siaced a throwsus gwrth-ddŵr
  • Bag cefn (argymhellir 25L – 35L)
  • Haen sylfaen
  • Top cynnes / defnydd cnu
  • Haen sbâr
  • Het gynnes a menyg
  • Cap
  • Meddyginiaeth / Cymorth cyntaf personol
  • Bwyd a diod
  • Ffôn symudol / pres / cerdyn
  • Ffyn cerdded (dewisol)
  • Coesarnau (dewisol)
  • Tortsh pen a batris sbâr (Taith Gwawrio’r Wyddfa)

Tywydd Poeth

  • Tywydd poeth
  • Het haul
  • Eli haul
  • Sbectol haul
  • Mwy o ddŵr

Tywydd Gwlyb neu Oer

  • Menyg sbâr / het gynnes
  • Haen sbâr / deunydd cnu
  • Diod poeth / fflasg
  • Siaced down / belai

Oriel

Taith Dywys Y Glyderau
Taith Dywys Y Glyderau
Taith Dywys Y Glyderau
Taith Dywys Y Glyderau
Taith Dywys Y Glyderau
Taith Dywys Y Glyderau
Taith Dywys Y Glyderau
Taith Dywys Y Glyderau
Taith Dywys Y Glyderau
Taith Dywys Y Glyderau