Taith Dywys Y Moelwynion

Grŵp o fynyddoedd ysblennydd sydd wedi'u lleoli yng nghanol Eryri yw’r Moelwynion.

Ceir llawer o deithiau cerdded rhagorol a chyffrous yn yr ardal hon sy'n cynnig heriau amrywiol o fewn tirwedd a golygfeydd hardd, gan gynnwys nifer o lynnoedd a chwareli llechi hanesyddol.

Moel Siabod

Dyma fynydd Cymreig rhagorol sy’n cynnig diwrnod gwych. Moel Siabod yw’r copa uchaf ym mryniau’r Moelwynion ac mae ganddo rhai o'r golygfeydd gorau o Bedol yr Wyddfa, y Glyderau a’r Carneddau.

Mae Moel Siabod hefyd yn fynydd ardderchog ar gyfer dysgu llywio yn ogystal â chyfleoedd i sgramblo ar grib y Ddaear Ddu.

Cnicht

Yn fynydd sy’n cael ei gydnabod fel Matterhorn Cymru, mae Cnicht yn daith wych gyda thirwedd hyfryd o Ddyffryn Glaslyn a’r Wyddfa o’i amgylch. Er ei fod yn fynydd llai o ran uchder, mae'r copa yn cynnig golygfeydd ysblennydd.

Moelwyn Mawr a Bach

Dyma fynyddoedd prysuraf y Moelwynion. Gellir dilyn nifer o deithiau gwahanol at gopa’r ddau fynydd ac maent yn berffaith ar gyfer diwrnod llywio. Mae’r golygfeydd, yn benodol yr olygfa o gopa Moelwyn Mawr, yn hyfryd ac ymhlith y gorau yn Eryri. Gellir hefyd cerdded drwy chwareli llechi ar y daith.

Manod Mawr a Maenofferen

Ceir nifer o chwareli llechi ar ochr ddeheuol Blaenau Ffestiniog ac mae'n bosib cael diwrnod yn archwilio'r hanes yno. Gellir ychwanegu brig Manod Mawr at y diwrnod hwn hefyd.


Gweithdrefn Archebu

  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau archebu.
  • Cysylltwch â ni am ddyddiadau ac argaeledd.
  • Bydd Smyrff o Heicio a Beicio Eryri yn cysylltu â chi mewn 1 - 2 ddiwrnod.

Telerau ac Amodau Archebu

Darllenwch ein Telerau ac Amodau Archebu


Pris

£ cysylltwch â ni


Hyd

  • 1 Diwrnod

Lefel Anhawster


Lefel Ffitrwydd a Argymhellir


Addasrwydd

  • Grwpiau bach
  • Unigolion

Gofynion

  • Profiad o dir garw

Cynnwys

  • Hyfforddwr (hyfforddwyr) cymwys, wedi’u hyswirio a phrofiadol

Rhestr Offer a Argymhellir

Offer Cyffredinol

  • Esgidiau
  • Trowsus cerdded (dim jîns neu gotwm)
  • Siaced a throwsus gwrth-ddŵr
  • Bag cefn (argymhellir 25L – 35L)
  • Haen sylfaen
  • Top cynnes / defnydd cnu
  • Haen sbâr
  • Het gynnes a menyg
  • Cap
  • Meddyginiaeth / Cymorth cyntaf personol
  • Bwyd a diod
  • Ffôn symudol / pres / cerdyn
  • Ffyn cerdded (dewisol)
  • Coesarnau (dewisol)
  • Tortsh pen a batris sbâr (Taith Gwawrio’r Wyddfa)

Tywydd Poeth

  • Tywydd poeth
  • Het haul
  • Eli haul
  • Sbectol haul
  • Mwy o ddŵr

Tywydd Gwlyb neu Oer

  • Menyg sbâr / het gynnes
  • Haen sbâr / deunydd cnu
  • Diod poeth / fflasg
  • Siaced down / belai

Oriel

Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion
Taith Dywys Y Moelwynion