Taith Dywys Y Rhinogydd

Cadwyn o fynyddoedd ysblennydd i'r dwyrain o Harlech, sef tref hanesyddol hardd sydd wedi'i leoli yng Ngwynedd, Gogledd Cymru yw’r Rhinogydd.

Er nad yw'r Rhinogydd mor adnabyddus â mynyddoedd eraill fel Y Glyderau a'r Carneddau, maent yn fwy ynysig ac yn llawer mwy garw i gerddwyr, ac yn cynnig golygfeydd syfrdanol o'r copaon.

Mae'r Rhinogydd yn fwy anghysbell, creigiog ac wedi’u gorchuddio â grug tuag at gyfeiriad gogleddol y mynyddoedd, yn enwedig o amgylch Rhinog Fawr, Rhinog Fach a’r Llethr. Ceir hefyd nifer o lynnoedd yn yr ardal hon.

Mae mynyddoedd llai fel Moel Ysgyfarnogod yn cuddio yn y Rhinogydd, sy’n agos at garnedd garreg yr Oes Efydd, sef Bryn Cader Faner.

Ceir tirwedd fwy meddal a llai creigiog ym mhen deheuol y Rhinogydd, o gwmpas Y Llethr, Diffwys a Chwm Ysgethin.

Gall llywio fod yn eithaf heriol ar dir y Rhinogydd, ond mae’n gyfle gwych i ddysgu os ydych yn chwilio am fynyddoedd mewn ardal fwy tawel a llonydd.


Gweithdrefn Archebu

  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau archebu.
  • Cysylltwch â ni am ddyddiadau ac argaeledd.
  • Bydd Smyrff o Heicio a Beicio Eryri yn cysylltu â chi mewn 1 - 2 ddiwrnod.

Telerau ac Amodau Archebu

Darllenwch ein Telerau ac Amodau Archebu


Pris

£ cysylltwch â ni


Hyd

  • 1 Diwrnod

Lefel Anhawster


Lefel Ffitrwydd a Argymhellir


Addasrwydd

  • Grwpiau bach
  • Unigolion

Gofynion

  • Profiad o dir garw

Cynnwys

  • Hyfforddwr (hyfforddwyr) cymwys, wedi’u hyswirio a phrofiadol

Rhestr Offer a Argymhellir

Offer Cyffredinol

  • Esgidiau
  • Trowsus cerdded (dim jîns neu gotwm)
  • Siaced a throwsus gwrth-ddŵr
  • Bag cefn (argymhellir 25L – 35L)
  • Haen sylfaen
  • Top cynnes / defnydd cnu
  • Haen sbâr
  • Het gynnes a menyg
  • Cap
  • Meddyginiaeth / Cymorth cyntaf personol
  • Bwyd a diod
  • Ffôn symudol / pres / cerdyn
  • Ffyn cerdded (dewisol)
  • Coesarnau (dewisol)
  • Tortsh pen a batris sbâr (Taith Gwawrio’r Wyddfa)

Tywydd Poeth

  • Tywydd poeth
  • Het haul
  • Eli haul
  • Sbectol haul
  • Mwy o ddŵr

Tywydd Gwlyb neu Oer

  • Menyg sbâr / het gynnes
  • Haen sbâr / deunydd cnu
  • Diod poeth / fflasg
  • Siaced down / belai

Oriel

Taith Dywys Y Rhinogydd
Taith Dywys Y Rhinogydd
Taith Dywys Y Rhinogydd
Taith Dywys Y Rhinogydd
Taith Dywys Y Rhinogydd
Taith Dywys Y Rhinogydd
Taith Dywys Y Rhinogydd
Taith Dywys Y Rhinogydd
Taith Dywys Y Rhinogydd
Taith Dywys Y Rhinogydd