Taith Dywys Yr Arenig
Mynydd yn ne Eryri yw Arenig Fawr, sydd rhwng Trawsfynydd a'r Bala. Dyma fynydd uchaf bryniau’r Arenig (854m) gydag Arenig Fach, mynydd cyfagos llai, yn gorwedd i'r gogledd. Caiff ei amgylchynu gan Foel Llyfnant i’r gorllewin, Rhobell Fawr i’r de a Charnedd y Filiast i’r gogledd ddwyrain.
Mae'n ardal brydferth a heddychlon gyda golygfeydd hyfryd o gefn gwlad a'r mynyddoedd cyfagos.
Ceir nodwedd hanesyddol ddiddorol i’r daith hon. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd awyren fomio y ‘Flying Fortress’ ddamwain ar y mynydd. Ar y copa, ceir pwynt trig a chofeb i’r wyth aelod o griw awyr Americanaidd a fu farw yn y ddamwain.
Ar ddiwrnod clir gallwch weld Yr Wyddfa, Y Glyderau a mynyddoedd y Carneddau i'r gogledd a mynyddoedd Cadair Idris a'r Aran i'r de.
Gall y tir fod yn gorsiog ar adegau ac mae ganddo lwybrau defaid mewn rhai ardaloedd. Ceir hefyd caban bychan ger Llyn Arenig Fawr.
Gweithdrefn Archebu
- Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau archebu.
- Cysylltwch â ni am ddyddiadau ac argaeledd.
- Bydd Smyrff o Heicio a Beicio Eryri yn cysylltu â chi mewn 1 - 2 ddiwrnod.
Telerau ac Amodau Archebu
Darllenwch ein Telerau ac Amodau Archebu
Pris
£ cysylltwch â ni
Hyd
Lefel Anhawster
Lefel Ffitrwydd a Argymhellir
Addasrwydd
Cynnwys
- Hyfforddwr (hyfforddwyr) cymwys, wedi’u hyswirio a phrofiadol
Rhestr Offer a Argymhellir
Offer Cyffredinol
- Esgidiau
- Trowsus cerdded (dim jîns neu gotwm)
- Siaced a throwsus gwrth-ddŵr
- Bag cefn (argymhellir 25L – 35L)
- Haen sylfaen
- Top cynnes / defnydd cnu
- Haen sbâr
- Het gynnes a menyg
- Cap
- Meddyginiaeth / Cymorth cyntaf personol
- Bwyd a diod
- Ffôn symudol / pres / cerdyn
- Ffyn cerdded (dewisol)
- Coesarnau (dewisol)
- Tortsh pen a batris sbâr (Taith Gwawrio’r Wyddfa)
Tywydd Poeth
- Tywydd poeth
- Het haul
- Eli haul
- Sbectol haul
- Mwy o ddŵr
Tywydd Gwlyb neu Oer
- Menyg sbâr / het gynnes
- Haen sbâr / deunydd cnu
- Diod poeth / fflasg
- Siaced down / belai
Oriel