

Cwrs natur yn yr iaith gymraeg i datblygu sgiliau personol Arweinydd Mynydd. Gaeth y cwrs yma ei rhedag gan y cyflwynydd teledu Iolo Williams.
Oedd o wedi ei drefnu trwy Heicio a Beicio Eryri ag Mountain Training.
Fydd y cwrs nesa yn yr Hydref neu gwanwyn nesa.
Darllenwch ein Telerau ac Amodau Archebu
£ cysylltwch â ni
Diwrnod gwych o ddysgu am fywyd gwyllt a daeareg yng Nghwm Idwal yng nghwmni hwyliog Iolo a Smyrff. Profiad gwerthfawr oedd derbyn arbenigedd Iolo trwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu am natur yn fy mamiaith. Yn argymell i unrhyw un sy'n ymddiddori mewn natur, cadwraeth a'r iaith Gymraeg. Cwrs holl bwysig i unrhyw un sy'n mynydda ac i arweinwyr mynydd er mwyn trosglwyddo enwau Cymraeg ar fyd natur i eraill.
Anna George (Caernarfon) - Apr 2024
Cwre ardderchog iawn wedi dysgu llawar a braf oedd cal y cwrs natur efo Iolo yn y gymraeg.
Gethin Rowlands (Ynys Mon) - Apr 2024
Diwrnod gwych. Iolo yn wybodus ac yn ddifyr, yn ol y disgwyl, ac wedi cynnau brwdfrydedd ynof i ddysgu mwy. Lot o wybodaeth diddorol - nid dim ond am rywogaethau, ond hefyd am y ffordd mae'r tir wedi cael ei ffermio dros y canrifoedd a'r effaith mae hynny wedi ei gael ar fyd natur. Gwych hefyd cael yr hyfforddiant yma yn Gymraeg.
Manon Davies (Aberystwyth) - Apr 2024
Diwrnod gwych llawn gwybodaeth - diolch o galon!
Iwan Meirion (Llandrillo) - Apr 2024
Diwrnod gwych efo digon o ddysgu a chwerthin.
Rob Havelock (Y Felinheli) - Apr 2024
Diwrnod Gwych! Taith a trafodaeth difyr a hamddenol, Iolo mor wybodus am bob elfen o fyd natur. Trefniadau yn berffaith Diolch
Dwynwen Pennant (Porthmadog) - Apr 2024
Diwrnod ardderchog, cymusg o natur, amgylchedd a hwyl.
Ian a Gwawr (Betws y Coed) - Apr 2024
Dwi’n gyfarwydd iawn o Gwm Idwal o perspective daearegol a’i hanner ol-rewlifol ond roedd cael cyfle i edrych ar yr ardal drwy lygaid rhywun arall yn ddiddorol dros ben. Dwirnod da, wedi mwynhau yn arw.
Paula Roberts (Llanberis) - Apr 2024
Iolo Williams o amgylch Cwm Idwal. Diwrnod ardderchog a diddorol iawn.
Dafydd Thomas (Llanfairpwll, Anglesey) - Apr 2024