

Yr Wyddfa yw'r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr ac mae'n 1,085 metr (3,560 troedfedd) o uchder. Wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae'n un o dirnodau enwocaf a mwyaf nodedig Cymru.
Profwch her wahanol drwy gerdded i fyny'r Wyddfa yn y tywyllwch gyda thortsh ar eich pen. Rhaid codi’n gynnar er mwyn cychwyn o Lanberis, gyda'r nod o gyrraedd y copa erbyn toriad gwawr.
Crib Goch yw'r llwybr anoddaf i gopa'r Wyddfa. Mae'n ffordd gyffrous a heriol i gyrraedd copa uchaf Cymru.
Lleolir Tryfan mewn rhan syfrdanol o Eryri. Mae’n fynydd arbennig sy’n rhan o’r Glyderau yn Nyffryn Ogwen. Dyma un o fynyddoedd mwyaf adnabyddus Cymru gan fod siâp unigryw yn perthyn iddo.
Safai mynyddoedd y Glyderau yn un o ardaloedd mwyaf trawiadol Gogledd Cymru. Gyda golygfeydd syfrdanol a thir mynydd amrywiol, ystyrir y Glyderau fel un o drysorau cerddwyr Parc Cenedlaethol Eryri.
Lleolir mynyddoedd y Carneddau yn Eryri. Dros 910 metr (3000 troedfedd), maent yn ffurfio’r ardal fwyaf o ucheldir yng Nghymru a Lloegr.
Grŵp o fynyddoedd ysblennydd sydd wedi'u lleoli yng nghanol Eryri yw’r Moelwynion. Ceir llawer o deithiau cerdded rhagorol a chyffrous yn yr ardal hon sy'n cynnig heriau amrywiol o fewn tirwedd a golygfeydd hardd, gan gynnwys nifer o lynnoedd a chwareli llechi hanesyddol.
Cadwyn o fynyddoedd ysblennydd i'r dwyrain o Harlech, sef tref hanesyddol hardd sydd wedi'i leoli yng Ngwynedd, Gogledd Cymru yw’r Rhinogydd.
Mae Cadair Idris yn fynydd ysblennydd sydd ymhlith y gorau yng Nghymru ac mae hefyd yn rhan o Dri Chopa Cymru. Safai ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri ger tref Dolgellau.
Mynydd yn ne Eryri yw Arenig Fawr, sydd rhwng Trawsfynydd a'r Bala. Dyma fynydd uchaf bryniau’r Arenig (854m) gydag Arenig Fach, mynydd cyfagos llai, yn gorwedd i'r gogledd.
Mae Crib y Nantlle yn un o lwybrau cerdded safonol Eryri. Nid yw mor heriol â Chrib Goch neu Tryfan, ond mae’r llwybr yr un mor gyffrous!