Taith Dywys Tryfan

Lleolir Tryfan mewn rhan syfrdanol o Eryri. Mae’n fynydd arbennig sy’n rhan o’r Glyderau yn Nyffryn Ogwen. Dyma un o fynyddoedd mwyaf adnabyddus Cymru gan fod siâp unigryw yn perthyn iddo. Mae'n enwog am ei lwybrau diddorol a heriol ac mae'n addas ar gyfer sgramblwyr profiadol sy'n hyderus gyda thir mynydd creigiog ac agored. Caiff copa Tryfan ei hadnabod am y ddwy golofn sydd arni, sef colofnau ‘Sion a Sian.’ Dyma'r 15fed mynydd uchaf yng Nghymru ac mae'n debyg mai dyma'r ail fynydd mwyaf poblogaidd ar ôl Yr Wyddfa.


Gweithdrefn Archebu

  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau archebu.
  • Cysylltwch â ni am ddyddiadau ac argaeledd.
  • Bydd Smyrff o Heicio a Beicio Eryri yn cysylltu â chi mewn 1 - 2 ddiwrnod.

Telerau ac Amodau Archebu

Darllenwch ein Telerau ac Amodau Archebu


Pris

£ cysylltwch â ni


Hyd

  • 1 Diwrnod

Lefel Anhawster


Lefel Ffitrwydd a Argymhellir


Addasrwydd

  • Grwpiau bach
  • Unigolion

Gofynion

  • Profiad o dir garw

Cynnwys

  • Hyfforddwr (hyfforddwyr) cymwys, wedi’u hyswirio a phrofiadol

Rhestr Offer a Argymhellir

Offer Cyffredinol

  • Esgidiau
  • Trowsus cerdded (dim jîns neu gotwm)
  • Siaced a throwsus gwrth-ddŵr
  • Bag cefn (argymhellir 25L – 35L)
  • Haen sylfaen
  • Top cynnes / defnydd cnu
  • Haen sbâr
  • Het gynnes a menyg
  • Cap
  • Meddyginiaeth / Cymorth cyntaf personol
  • Bwyd a diod
  • Ffôn symudol / pres / cerdyn
  • Ffyn cerdded (dewisol)
  • Coesarnau (dewisol)
  • Tortsh pen a batris sbâr (Taith Gwawrio’r Wyddfa)

Tywydd Poeth

  • Tywydd poeth
  • Het haul
  • Eli haul
  • Sbectol haul
  • Mwy o ddŵr

Tywydd Gwlyb neu Oer

  • Menyg sbâr / het gynnes
  • Haen sbâr / deunydd cnu
  • Diod poeth / fflasg
  • Siaced down / belai

Taith Dywys Tryfan Recent Reviews

What an amazing day, we had a full day of hiking and scrambling and learned lots. Smyrff is a great guide and very positive person, we can't wait until the next hike.

Nick (Derbyshire) - May 2024


Oriel